Dadfachu, Cofnodi ac Adferiad:
Cadwch nhw yn y dŵr
Pan fydd y pysgodyn yn dawel, tynnwch y bachyn yn ofalus ac yn gyflym gyda gefel blygu fain.
Dylid gadael iddo ddod ato’i hun a'i ddychwelyd mewn dŵr glân sy’n llifo’n gyson, ond nid mewn llif cyflym. Gall yr adferiad gymryd peth amser.
Os yw’r pysgodyn wedi ei fachu’n ddwfn, yn arbennig yn y dagell, torrwch y lein yn agos at y bachyn. Bydd hyn yn achosi llai o niwed i’r pysgodyn na thynnu’r bachyn.
Fel rhagofal ychwanegol, mae'n ddoeth peidio â physgota o gwbl yn ystod cyfnodau estynedig o dywydd poeth.
Ffotograffiaeth
Gan gadw'r pysgodyn yn y dŵr, cynhaliwch ef yn ofalus o dan y bol gan ddal ei gynffon yn llac.
Mesur
Gwnewch hyn yn y dŵr. Cymerwch dâp mesur neu defnyddiwch ben eich gwialen fel dangosydd hwylus.
Gellir defnyddio’r hyd i amcangyfrif y pwysau. Dylid mesur pysgodyn o’r trwyn i fforch y gynffon.
Os oes gennych bysgodyn nad yw’n dod ato ei hun, gadewch ef yn yr afon a rhoi gwybod cyn gynted ag y bo'n ymarferol i:
Cyfoeth Naturiol Cymru drwy ffonio
0300 065 3000
....neu os ydych yn Lloegr, i’r Environment Agency drwy ffonio
0800 80 70 60.
Cofiwch gadw eich pysgodyn yn y dŵr bob amser.
Length/Weight Cyfrifiannell Hyd/Pwysau ar gyfer Eog Cymreig (yn seiliedig ar bysgod Dyfrdwy)
- Defnyddiwch y tacl cywir
- Cynlluniwch ymlaen llaw
- Chwaraewch y pysgodyn yn gadarn a defnyddiwch rwyd addas
- Dylech eu cadw yn y dŵr bob am