Eich Tacl:
defnyddio'r gêr cywir
Defnyddiwch dacl sy'n gyfreithlon ac sy’n lleihau'r risg o niwed
Bachau a Lein
Defnyddiwch ‘ganllaw’ neu lein gref fel y gellir dod â'ch pysgod i'r rhwyd yn gyflym.
Rhaid i'r bachau fod heb adfach neu rhaid tynnu’r adfach (rhaid eu gwasgu'n llawn gyda gefel blygu). Mae'n anghyfreithlon defnyddio bachyn ag adfach i bysgota eogiaid.
Dim ond bachau sengl a ganiateir ar droellwyr.
Rhaid i geg bachau ar droellwyr, bachau llwyneu blygiau fod yn 13mm neu lai.
Plu
Defnyddiwch blu â bach sengl bach neu ddwbl. Mae’r rhain yn gwneud llai o niwed ac yn dadfachu’n haws. Argymhellir defnyddio maint 6 neu fachyn llai, gyda cheg 10mm neu lai.
Er mwyn pysgota gyda phluen fawr, defnyddiwch bluen diwb gyda bachyn sengl bach neu fachyn dwbl.
Os ydych yn defnyddio bachyn triphlyg ar eich pluen, ni ddylai’r geg fod yn fwy na 7mm.
Troellwyr, Bachau Llwy a Phlygiau
Dim ond bachau sengl (nid rhai dwbl na thriphlyg) a ganiateir ar fachau llwy, troellwyr neu blygiau, er y gall plygiau gael hyd at dri bachyn sengl.
Rhaid i geg bachau fod yn 13mm neu lai.