Cynllunio Ymlaen Llaw:

Meddyliwch cyn pysgota

Cyn pysgota mewn llyn, dylech bob amser nodi lle gellir glanio pysgod yn ddiogel a'u cadw yn y dŵr heb risg o niwed ar greigiau neu gerrig.

Os byddwch yn pysgota ar eich pen eich hun, cymerwch rwyd gyda thyllau addas. Gall rhwydi â thyllau mawr traddodiadol, siâp twmffat, hyd yn oed rhai heb gwlwm, hollti esgyll ac achosi i gen pysgod syrthio.

Gofalwch fod gennych efail blygu â thrwyn hir neu offeryn tebyg wrth law er mwyn tynnu bachau yn gyflym.

Os hoffech chi dynnu llun o'ch eog cyn ei ryddhau, dylech gael eich camera'n barod, er enghraifft, ar lanyard gwddf.

- Defnyddiwch y tacl cywir
- Cynlluniwch ymlaen llaw
- Chwaraewch y pysgodyn yn gadarn a defnyddiwch rwyd addas
- Dylech eu cadw yn y dŵr bob amter